Canlyniadau Chwilio - Warren, Samuel

Samuel Warren

Nofelydd o Gymru a bargyfreithiwr oedd Samuel Warren (23 Mai 1807 - 29 Gorffennaf 1877). Roedd yn nofelydd pur boblogaidd ganol y 19g. Cafodd ei eni yn Wrecsam (Sir Ddinbych gynt). Bu'n Aelod Seneddol dros Midhurst, Lloegr rhwng 1856-1859.

Ysgrifennodd Warren sawl llyfr ar y Gyfraith ond daeth i amlygrwydd fel llenor pan gyhoeddodd ei nofel gyntaf yn 1838, sef ''Passages from the Diary of a Late Physician''. Dilynwyd hyn gan nofel arall, sef ''Ten Thousand a Year'' (1839), sy'n adrodd hanes twyllwr digywilydd yn codi yn y byd trwy ddichell. Dychanol yw naws y ddwy nofel hyn. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1