Canlyniadau Chwilio - Fonda, Henry, 1905-1982
Henry Fonda
Actor ffilm a theatr o'r Unol Daleithiau oedd Henry Jaynes Fonda (16 Mai 1905 – 12 Awst 1982).Ganwyd yn Grand Island, Nebraska, a chychwynnodd ei yrfa actio gyda'r Omaha Community Playhouse. Aeth ymlaen i berfformio ar Broadway cyn iddo symud i Hollywood ym 1935. Ymddangosodd mewn dros 100 o ffilmiau gan gynnwys ''A Farmer Takes a Wife'' (1935), ''Young Mr. Lincoln'' (1939), ''The Grapes of Wrath'' (1940), ''The Lady Eve'' (1941), ''The Oxbow Incident'' (1943), ''The Wrong Man'' (1956), ''Twelve Angry Men'' (1957), ac ''Once Upon a Time in the West'' (1968). Enillodd Wobr yr Academi am Actor Gorau am ei berfformiad yn ''On Golden Pond'' (1981). Ymhlith ei berfformiadau theatr roedd ''Mister Roberts'' (1948–51), ''Two for the Seesaw'' (1958), a ''Clarence Darrow'' (1974–5).
Bu'n briod pump o weithiau ac roedd yn dad i'r actorion Jane Fonda a Peter Fonda. Darparwyd gan Wikipedia