Canlyniadau Chwilio - Agence France-Presse
Agence France-Presse
Asiantaeth newyddion a sefydlwyd yn Ffrainc ym 1835 yw Agence France-Presse (AFP). Dyma'r asiantaeth newyddion hynaf yn y byd ac un o'r tair mwyaf, gydag Associated Press (AP) a Reuters. AFP yw'r asiantaeth newyddion fwyaf yn yr iaith Ffrangeg hefyd.Lleolir pencadlys AFP ym Mharis, gyda chanolfannau rhanbarthol yn Washington D.C., Hong Cong, Nicosia, São Paulo a Montevideo a swyddfeydd lleol mewn dros 110 o wledydd. Mae'n cyhoeddi newyddion mewn chwech o ieithoedd, sef Ffrangeg, Arabeg, Saesneg, Sbaeneg, Portiwgaleg ac Almaeneg. Darparwyd gan Wikipedia